Eisteddfod Genedlaethol Cymru – St Davids Distillery Limited

National Eisteddfod of Wales

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

  • Sale


https://eisteddfod.cymru

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn.

Mae'r ŵyl yn teithio o le i le, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, a denu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau.

Gellir olrhain hanes yr Eisteddfod yn ôl i 1176, gyda hanes modern y sefydliad yn dyddio'n ôl i 1861. Mae'r ŵyl wedi’i chynnal bob blwyddyn, ac eithrio 1914, pan y’i gohiriwyd am flwyddyn oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn draddodiadol, mae’r Eisteddfod yn ŵyl gystadleuol, sy’n denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn.  Mae'r ŵyl ei hun wedi datblygu ac esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y cystadlaethau yn ganolbwynt canolog ar gyfer yr wythnos, mae'r Maes wedi tyfu i fod yn ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.

 

The National Eisteddfod is a celebration of culture and this language in Wales and is held during the first week of August each year.

The festival travels from place to place, visiting north and south Wales alternately, attracting around 150,000 visitors and over 250 stalls.

The history of the Eisteddfod can be traced back to 1176, with the modern history of the organization dating back to 1861. The festival is held annually, with the exception of 1914, when it was adjourned for one year due to the First World War.

Traditionally, the Eisteddfod is a competitive festival, which attracts more than 6,000 competitors every year. The festival itself has evolved and evolved over recent years, and although the competitions are a central hub for the week, the Maes has grown into a lively festival with hundreds of events and activities for the whole family.

 

Registered Charity no. 1155539


Liquid error (layout/theme line 187): Could not find asset snippets/agechecker.liquid