Pentref anghyfannedd oedd Nant Gwrtheyrn yn y 1970au yn dilyn cau y chwareli. Roedd y tai, y swyddfeydd, y capel a’r siopau, a godwyd pan oedd y chwareli yn eu hanterth rhwng 1860 a 1920, a dros 2,000 o ddynion yn cloddio’r ithfaen, yn wag ac wedi mynd â’u pennau iddynt.
Cafodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, elusen gofrestredig, ei ffurfio trwy ddycnwch Dr Carl Clowes, meddyg teulu lleol, ac eraill, ac fe lwyddon nhw yn y pen draw i brynu’r pentref a mynd ati i adnewyddu’r hen adeiladau a datblygu canolfan ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion. Fe ddaeth y dyffryn tawel hefyd i ddenu grwpiau eraill i fwynhau ei naws unigryw.
Rhwng 2007 a 2010 cafodd y pentref rhestredig ei adnewyddu i greu canolfan breswyl unigryw, ac atyniad ar gyfer ymwelwyr dyddiol, drwy gymorth grant o £5m a ddaeth yn bennaf oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Bellach cynhelir nifer o wahanol weithgareddau, fel priodasau a chynadleddau yma yn ogystal â’r rhaglen o gyrsiau Cymraeg i oedolion drwy gydol y flwyddyn.
Mae Nant Gwrtheyrn yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant sy’n dal i gael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.